Dr Amber Wheeler, Cadeirydd CGFFfC
Bob blwyddyn, rydyn ni’n rhyfeddu at yr amrywiaeth o gynigion am sesiynau a ddaw i law ar gyfer Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, ac nid yw eleni’n eithriad. Ar ôl nifer o oriau yn darllen ceisiadau, yn dod â sesiynau a siaradwyr sy’n cyd-fynd at ei gilydd, a llawer o aildrefnu, rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu rhaglen eleni.
Yn y rhaglen, ceir teitlau’r sesiynau ar gyfer pob diwrnod, sy’n rhoi blas o’r hyn sydd i ddod. Bydd y rhaglen lawn, gyda manylion llawn pob sesiwn, yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Thema eleni yw Tyfu Amrywiaeth ac Arallgyfeirio mewn bwyd a ffermio Cymru, a byddwn yn dod ynghyd yn lleoliad hyfryd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal mewn gwahanol rannau o’r Ardd, gyda’r cofrestru, y stondinau a’r bwyd i gyd yn y Tŷ Gwydr Mawr eiconig.
Rydyn ni’n falch iawn y bydd Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd, yn agor y gynhadledd, ac y bydd Nerys Evans, Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, yn ei chloi.
Fel cadeirydd y gynhadledd, rydw i wrth fy modd â’r amrywiaeth o sesiynau a’r siaradwyr gwych sy’n ymuno â ni eleni. Ochr yn ochr â sgyrsiau a thrafodaethau, mae’r rhaglen yn cynnwys digonedd o sesiynau ymarferol a chreadigol, yn ogystal â theithiau o amgylch yr Ardd dan arweiniad ei staff gwybodus.
Rydyn ni’n falch bod cinio wedi’i gynnwys ym mhris y tocyn, wedi’i baratoi gyda chynnyrch o’r Ardd ei hun ac o gyflenwyr lleol.
Nos Fercher, cynhelir swper y gynhadledd yng Nghegin Hedyn yng Nghaerfyrddin, cegin gymunedol wych sy’n gwneud gwaith pwysig. Bydd nifer y lleoedd yn gyfyngedig, a bydd tocynnau ar werth yn ddiweddarach ym mis Hydref.
