Cynhalwyd ein pumed Gynhadledd yng Ngholeg Cambria Llysfasi, Rhuthun ar 1af-2il Tachwedd 2023.
Mae Llysfasi yn un o brif ganolfannau addysg diwydiannau’r tir Cymru, felly roeddem yn falch iawn o ymweld â’r coleg – a dod â’r Gynhadledd i ogledd-ddwyrain Cymru.
Sarah Dickins, ffermwr organig a chyn ohebydd economeg y BBC, bellach gyda Cymru Sero Net 2035, agorodd y gynhadledd (gwrandewch yma). Hefyd, roedd yn bleser i groesawu Iwan Edwards o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru – ond sydd yn fwy adnabyddus fel un o gyflwynwyr Garddio a mwy ar S4C (gwrandewch yma). Buodd siaradwyr eraill yn trin ystod eang o bynciau polisi ac ymarfer.
Ein siaradwr olaf oedd yr Athro Tim Lang, a ofynnodd sut fyddai fframwaith gwytnwch sifil ar gyfer bwyd yn edrych (gwrandewch yma neu weld y sleidiau).
Dyma’r rhaglen i’w hargraffu:
Bwyd a cherddoriaeth!
Darparwyd bwyd y Gynhadledd gan Fwyty Iâl, gan ddefnyddio cynhwysion lleol.
Buodd swper y gynhadledd gydag adloniant byw gan The Amazing Clouds nos Fercher. Diolch iddynt am ddod.
Llun: Alma Joensen
Our fifth Conference was held at Coleg Cambria Llysfasi, Ruthin on 1st-2nd November 2023.
Llysfasi is one of Wales’ leading centres of land-based education, and we were very pleased to visit the college – and bring the Conference to the north-east of Wales.
Sarah Dickins, organic farmer and former BBC economics correspondent, now working with Wales Net Zero 2035, opened the first day (listen here). It was also a pleasure to welcome Iwan Edwards from the North Wales Wildlife Trust – but who is perhaps better known as one of the presenters of S4C’s gardening programme, Garddio a mwy (listen here, in Welsh). Other speakers covered a wide range of policy and practical topics.
Our final speaker, Prof Tim Lang, asked what a civil resilience framework for food would like like (listen here or view slides).
Picture: Andrew Collings
Here is the printed programme.
Food and music!
Conference catering was by Iâl Restaurant, using local ingredients.
There was a conference dinner with live entertainment by The Amazing Clouds on Wednesday night. Thank you!
Llun: Alma Joensen
Diolch i’n Noddwyr / Thank you to our Sponsors
Aur / Gold
Arian / Silver
Efydd / Bronze
Diolch yn fawr iawn, hefyd, i’n gwirfoddolwyr gwych!
A huge thank you, too, to our wonderful volunteers!
Trefnwyd Gynhadledd 2023 gan – Conference 2023 was organized by: Andrew Collings, Carwyn Graves (Tir Glas), Catherine Hughes, Steven Jacobs (Organic Farmers & Growers), Alicia Miller (Sustainable Food Trust), Rhian Pierce, Jane Powell (Food Manifesto Wales), Amber Wheeler (Landworkers’ Alliance Cymru) and Jenna Thompson (Pasture-fed Livestock Association), with additional support from Jane Ricketts Hein (Cynidr Consulting).