Polisi / Policy
9.15 – 9.30 yb / am
Croeso gan Gadeirydd y Gynhadledd / Welcome by Conference Chair: Dr Eifiona Thomas Lane (Yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd / In Welsh with English translation available)
9.30 – 10.00 yb / am
Siaradwr Gwadd / Guest Speaker: Yr Athro / Prof Tim Lang
Athro Emeritws Polisi Bwyd ym Mhrifysgol y Ddinas (City University) Llundain ydy Tim Lang a bu’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Polisi Bwyd 2002-2016. Ffurfiwyd ei ddiddordeb yn y berthynas rhwng bwyd, iechyd, yr amgylchedd, diwylliant ac economi wleidyddol gan ffermio mynydd yn Swydd Gaerhirfryn yn y 1970au. Archwiliodd ei lyfr Feeding Britain (Pelican, Chwefror 2021) y DU fel astudiaeth achos o system fwyd gwlad gyfoethog. Mae’n gyd-awdur Sustainable Diets (2017), Food Wars (2015), Unmanageable Consumer (2015), Ecological Public Health (2012) a Food Policy (2009). Roedd yn arweinydd polisi ar Gomisiwn EAT-Lancet 2019 yn cynnig y deiet planedol.
Tim Lang is Professor Emeritus of Food Policy at City University of where he was Director of the Centre for Food Policy 2002-2016. Hill farming in Lancashire UK in the 1970s formed his interest in the relationship between food, health, environment, culture and political economy. His book Feeding Britain (Pelican, Feb 2021) explored the UK as a case study of a rich country’s food system. He is co-author of Sustainable Diets (2017), Food Wars (2015), Unmanageable Consumer (2015), Ecological Public Health (2012) and Food Policy (2009). He was policy lead on the 2019 EAT-Lancet Commission proposing the planetary diet.

10.15 – 11.30 yb / am
Tuag at Strategaeth Fwyd Gymunedol i Gymru / Towards a Community Food Strategy for Wales
Cadeirydd / Chair: Aled Rhys Jones
Panel: Katie Palmer, Food Sense Wales; Rhodri Elfyn Jones, ffermwr / farmer; Ella Baxendale, Bwyd Da Môn . Good Food Môn; Cyng. / Cllr. Ann Davies, Cyngor Sir Gâr / Carmarthenshire County Council; Jenny Rathbone, AS / MS; Cefin Campbell AS / MS
Cyflwyniad i Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru a chyflwyniadau byr dwyieithog gan rhanddeiliaid ar yr heriau y mae angen eu goresgyn / ystyried. Bydd rhain yn amrywio o gyfiawnder bwyd a mynediad i fywoliaeth gwledig a chynaliadwyedd ffermio. Dilynir hyn gan sesiwn drafodaeth wedi’i gadeirio gan Aled Rhys Jones.
An introduction to Community Food Strategy Wales and short bilingual stakeholder presentations on challenges that need to be overcome / considered, ranging from food justice and access to farming livelihoods and sustainability. This will be followed by a facilitated audience discussion chaired by Aled Rhys Jones.
Noddwyd gan Bwyd a Diod Cymru / Sponsored by Food & Drink Wales
Sesiwn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd. / Bilingual session with English translation.
And here is a transcript of the session (in English)

Amser coffi? / Coffee break?
Beth am hoe fach gyda Pharc Cenedlaethol Eryri – sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 70 a ... / What about a break with Snowdonia National Park – which is celebrating its 70th birthday – and …
Bardd Cenedlaethol Cymru a’r Prifardd / Wales National Bard, Ifor ap Glyn!
Gyda chaniatâd caredig Parc Cenedlaethol Eryri / With the kind permission of Snowdonia National Park


11.45 yb / am – 1.00 yp / pm
Cymryd rheolaeth yn ôl / Taking back control
Cadeirydd / Chair: Yr Athro / Prof. Tim Lang
Panel: Duncan Fisher, Our Food, Crickhowell; Michael Powell, Cyngor Sir Fynwy / Monmouthshire County Council; Peter Grieg, Pipers Farm
Mae Adfywio a Masnacheiddio yn ddwy elfen y mae angen i Gymru fynd i’r afael â nhw os yw am gynhyrchu a gwerthu mwy i bawb yn y wlad. Sut i wneud hyn er lles pawb yw drwy gynyddu drwy gydweithio ac arloesi. Rhaid inni sicrhau bod newid yn cael ei ymgorffori’n barhaol yn ein systemau bwyd cyfan. Mae rôl yr entrepreneur yn allweddol. Ar un pen, mae cynllun bocs llysiau lleol yn dod yn llwybr i’r farchnad ar gyfer cynhyrchwyr amrywiol. Ar y llall, mae cynhyrchwyr yn creu graddfa ac yn adeiladu brandiau drwy gydweithio. Ble mae llywodraeth leol a chenedlaethol yn cyd-fynd â gweledigaeth ar gyfer cynhyrchu bwyd lleol a chynaliadwy yn y dyfodol?
Regeneration and Commercialisation are two elements that Wales needs to address if it is to produce and sell more to everyone in the country. How to do this for everyone’s benefit is by scaling up through collaboration and innovation. We have to ensure that change becomes permanently embedded in the entirety of our food systems. The role of the entrepreneur is key. At one end a local veg-box scheme becomes a route to market for diverse producers. At the other, producers create scale and build brands through collaboration. Where does local and national government fit in a future vision of local and sustainable food production?
1.15 – 1.45 yp / pm
Diweddariad dros ginio / Lunch update: Bwyd a ffermio Llywodraeth Cymru / Welsh Government food and farming
Gyda / With: Rhys Evans, NFFN; James Owen, Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Mae ffermio yng Nghymru ar groesffordd. Gyda Bil Amaethyddol Cymru yn debygol o gael ei drafod y flwyddyn nesaf, a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig a’r Strategaeth Bwyd Cymunedol yn cael eu datblygu, mae gennym gyfle i lunio system fwyd a ffermio yn y dyfodol sydd o fudd i ffermwyr, cymdeithas, natur a’r hinsawdd. Dyma gyfle i glywed y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ddyfodol bwyd a ffermio yng Nghymru.
Welsh farming is at a crossroads. With the Wales Agricultural Bill likely to be debated next year, and the proposed Sustainable Farming Scheme and Community Food Strategy under development, we have an opportunity to shape a future food and farming system that benefits farmers, society, nature and climate. Here’s an opportunity to hear the latest from Welsh Government surrounding the future of food and farming in Wales.
2.00 – 3.15 yp / pm
Democratiaeth bwyd – grym dinasyddiaeth / Food democracy – the power of citizenship
Cadeirydd / Chair: Chris Nott, Food Farming and Countryside Commission
Panel: Camilla Saunders, Sustainable Food Knighton; Hywel Morgan, Fferm Esgairllaethdy, Sir Gaerfyrddin; Siân Stacey, O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea.
Mae pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd am fwyd a’r amgylchedd, gyda llawer o fentrau a phrosiectau cymunedol yn galw am newid. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i fod i ddarparu sianel ar gyfer y brwdfrydedd hwnnw drwy ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio gyda grwpiau a busnesau cymunedol. Ond pa mor dda mae hynny’n gweithio? Yn y sesiwn hon byddwn yn gofyn beth arall y gallem ei wneud i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed, a bod polisi’r llywodraeth yn cyd-fynd â dyheadau’r cyhoedd ar gyfer system fwyd well. Byddwn yn edrych ar ymatebion i unedau dofednod dwys ym Mhowys, gwerthu ffermydd cyfan ar gyfer gwrthbwyso carbon yn Sir Gaerfyrddin a phrosiect i gyd-ddylunio’r berthynas rhwng ffermio a natur yng nghanolbarth Cymru.
There is growing public concern about food and the environment, with many community initiatives and projects calling for change. The Well-being of Future Generations Act is supposed to provide a channel for that enthusiasm by requiring public bodies to work with community groups and businesses. But how well is that working? In this session we will ask what more we could do to ensure that everyone’s voice is heard, and that government policy fits with public aspirations for a better food system. We will look at responses to intensive poultry units in Powys, the sale of whole farms for carbon offsetting in Carmarthenshire and a project to co-design the relationship between farming and nature in mid Wales.
Sesiwn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd. / Bilingual session with English translation available.
And here is a transcript of the session (in English).
Amser paned / Tea break
Dysgu gyda Garden Organic: Cyflwyniad i wrtheithio / Garden Organic tips: Introduction to mulching
3.30 – 4.45 yp / pm
Mesuro cynaliadwyedd / Measuring sustainability
Cadeirydd / Chair: Aled Jones, NFU Cymru
Panel: Adele Jones, Sustainable Food Trust; Robert Craig, First Milk and farmer; Julian Bell, Agrecalc
Mae cynaliadwyedd yn rhywbeth yr ydym yn sôn amdano drwy’r amser ac yn meddwl ein bod yn gwybod beth mae’n ei ddiffinio, ond mae’n golygu llawer o bethau i lawer o bobl. Bydd y panel yn ystyried yr hyn sydd bwysicaf i’w fesur o ran cynaliadwyedd a pha ddulliau sydd gennym i wneud hyn mewn perthynas â chynhyrchu bwyd ar y fferm. A allwn greu ffordd gyffredinol o fesur cynaliadwyedd – Metrig Fferm Fyd-eang – fel sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan glymblaid amrywiol o ffermwyr, cyrff anllywodraethol a busnesau? Sut mae uno’r metrig hwn ar sail fyd-eang a beth mae ffermwyr ar lawr gwlad yn ei feddwl am hyn?
Sustainability is something that we talk about all the time and think we know what it defines, but it means many things to many people. The panel will consider what is most important to measure in sustainability and what tools we have to do this in relation to on-farm food production. Can we create a universal means of measuring sustainability – a Global Farm Metric – as is currently being developed by a diverse coalition of farmers, NGOs and businesses? How do we unify this metric on a global basis and what do farmers on the ground think about this?
5.00 – 5.30 yp / pm
Cyfle i gwrdd mewn grwpiau bach ac ymateb i drafodaethau’r diwrnod / A chance to meet in small groups and respond to the discussions of the day.
Rhywbeth cyn swper?
Dyma fideo newydd gan y Rhwydwaith Ffermio er Lles Nature / A video from the Nature Friendly Farming Network.
7.00 – 8.30 yh / pm
Archwilio dyfodol hyfyw i dir Cymru – gweithdy i gasglu barnau (Digwyddiad allanol) / Exploring a viable future for Wales’ land – a workshop to gather opinions (External event)
Mae’r ffordd yr ydym yn rheoli ein tir yn hanfodol i gyrraedd di-garbon net yng Nghymru. Ond sut mae cydbwyso cynhyrchu bwyd, bywyd gwyllt, twristiaeth, pren, dal a storio carbon a chadw ein treftadaeth wledig? A phwy sy’n penderfynu? Nid oes atebion hawdd, ac mae gwerthu ffermydd cyfan yn ddiweddar i gwmnïau buddsoddi i blannu coed ar gyfer gwrthbwyso carbon yn dangos yr hyn sydd yn y fantol. Rhaid inni glywed pob llais a dod o hyd i atebion y gall pawb eu cefnogi. Yn y sesiwn ryngweithiol hon byddwn yn defnyddio Mural, llwyfan cydweithredol ar-lein, a dull Three Horizons i archwilio ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, y rhwystrau a’r atebion posibl. Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Dr Anna Bullen o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen, sy’n datblygu Labordy Arloesi Defnydd Tir a fydd yn llywio polisi Cymru, ac sydd am sicrhau bod bwyd a ffermio yn cael eu cynrychioli’n dda.
Trefnir y digwyddiad hwn, sydd yn rhad ac am ddim ar wahân i’r Gynhadledd ar gyswllt Zoom gwahanol.
The way we manage our land is crucial to reaching net zero carbon in Wales. But how do we balance food production, wildlife, tourism, timber, carbon sequestration and the preservation of our rural heritage? And who decides? There are no easy answers, and the recent sale of whole farms to investment companies to plant trees for carbon offsetting shows what is at stake. We must hear all voices and find solutions that everyone can support. In this interactive session we will use Mural, an online collaborative platform, and the Three Horizons approach to explore our vision for Wales, the barriers and potential solutions. The session will be led by Dr Anna Bullen of the Centre for Alternative Technology, who is developing a Land Use Innovation Lab that will inform Welsh policy, and wants to ensure that food and farming are well represented.
This free event is being organized separately to the Conference on a different Zoom link.