Hoffem ddiolch yn fawr iawn ein noddwyr 2020 / We extend our sincere thanks to our 2020 sponsors

Cliciwch ar y dolenni i ddarganfod mwy amdanynt. / Click on the links to find out more about them.

Mae OF&G yn ardystio mwy na hanner tir organig y DU ac yn darparu cymorth, gwybodaeth a thrwyddedu i brif fusnesau bwyd organig Prydain.

OF&G certify more than half of UK organic land & provide support, information and licensing to Britain’s top organic food businesses.

Grŵp o ffermwyr sydd wedi dod at ei gilydd i hyrwyddo ffordd o ffermio sy’n gynaliadwy ac yn dda i natur yw’r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur.

The Nature Friendly Farming Network are a group of farmers who have come together to champion a way of farming which is sustainable and good for nature.

Prif elusen aelodaeth y DU sy’n ymgyrchu dros fwyd, ffermio a defnydd tir iach, dynol a chynaliadwy yw’r Soil Association. Ym maes ffermio, mae ein gwaith yn mynd yn ehangach na gosod ac ardystio safonau organig. Rydym hefyd yn gweithio gyda ffermwyr, busnesau a mentrau cymunedol i roi’r uchelgeisiau hyn ar waith. Rydym yn cynnig hyfforddiant, canllawiau technegol a digwyddiadau rhannu gwybodaeth i helpu pob ffermwr, organig neu fel arall, i rannu a datblygu arferion sy’n well i’r amgylchedd a’u busnesau. Yn ogystal, rydym yn dylanwadu ar bolisi, gan seilio ein hymgyrchoedd yn y profiad ymarferol hwn.

Rydym yn bartneriaid yn FABulous Farmers, sy’n brosiect Ewropeaidd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi ffermwyr wrth drosglwyddo i arferion mwy amaeth-ecolegol ar eu ffermydd.

The Soil Association is the UK’s leading membership charity campaigning for healthy, humane and sustainable food, farming and land use. In farming, our work at the Soil Association goes wider than setting and certifying to organic standards. We also work with farmers, businesses and community initiatives to put these ambitions into practice. We offer training, technical guidance and knowledge sharing events to help all farmers, organic or otherwise, to share and develop practices that are better for the environment and their businesses. In addition we influence policy, grounding our campaigns in this practical experience.

We are partners in FABulous Farmers, which is a European project designed to support farmers in the transition to more agro-ecological practices on their farms.

Garden Organic yw’r elusen genedlaethol ar gyfer tyfu’n organig. Rydym yn gweithio i gael cynifer o bobl yn tyfu’n organig ac yn gynaliadwy â phosibl drwy hyfforddiant, rhannu arfer gorau a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd tyfu’n organig. Mae Garden Organic hefyd yn rhedeg y Llyfrgell Hadau Treftadaeth, casgliad gwerthfawr o 800 o fathau prin o lysiau treftadaeth a arbedir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’u rhannu ag aelodau.

Garden Organic is the national charity for organic growing. We work to get as many people growing organically and sustainably as possible through training, sharing best practice and raising awareness of the importance of organic growing. Garden Organic also runs the Heritage Seed Library, a valuable collection of 800 rare heritage vegetable varieties saved for future generations and shared with members.

Hybu Cig Cymru yw’r sefydliad sy’n cael ei arwain gan y diwydiant sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. Dysgwch mwy am ein Rhaglen Datblygu Cig Coch.

Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) is the industry-led organisation responsible for the development, promotion and marketing of Welsh red meat. Find out about our Red Meat Development Programme.

Undeb o ffermwyr, tyfwyr, coedwigwyr a gweithwyr ar y tir yw Cynghrair y Gweithwyr Tir.

The Landworkers’ Alliance is a union of farmers, growers, foresters and land-based workers.

Mae Whole Health Agriculture (WHAg) yn credu bod iechyd go iawn yn dibynnu ar iechyd y bwyd yr ydym yn ei fwyta, sydd ei hun yn gysylltiedig ag iechyd ei ffynonellau maeth ei hun ac sy’n cynnwys iechyd y fferm gyfan a’r amgylchedd ehangach. Chi yw’r hyn rydych chi’n ei fwyta!

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo ffermwyr ac arferion ffermio sy’n osgoi mewnbwn cemegion gwenwynig, gwrthfiotigau ac ymyriadau synthetig yn y gadwyn fwyd ac ar y tir drwy:

  • ymchwilio a dogfennu arferion sy’n llwyddo i leihau gwrthfiotigau a lleihau cemegion artiffisial
  • hwyluso cyfnewid gwybodaeth am arferion cyfannol llwyddiannus ymhlith ffermwyr
  • hyrwyddo ffermwyr a thyfwyr cyfannol i ddefnyddwyr

Ymunwch â’n cymuned i gefnogi ffermwyr sy’n gweithio i ddiogelu ein hiechyd.  Mae’n rhad ac am ddim!

Whole Health Agriculture (WHAg) believes that true health is dependent on the health of the food that we eat, which is itself linked to the health of its own nutritional sources and includes the health of the entire farm and the wider environment. You really are what you eat!

We are committed to supporting and promoting farmers and farming practices that avoid the input of toxic chemicals, antibiotics and synthetic interventions in the food chain and on the land by:

  • investigating and documenting practices that are successful in minimising antibiotics and reducing artificial chemicals
  • facilitating knowledge exchange of successful wholistic practices among farmers
  • promoting wholistic farmers and growers to consumers

Please join our community in support of farmers working to safeguard our health. It’s free!