Ar y plât ac yn y gymuned / On the plate and in the community

9.15 – 9.45 yb / am

Siaradwr Gwadd / Guest Speaker: Adam Jones (Adam yn yr Ardd)

Mae Adam Jones, o Sir Gaerfyrddin yn arddwr adnabyddus sydd newydd gyhoeddi ei lyfr gyntaf i blant – Dere i Dyfu.  Mae Adam yn wyneb ac yn llais cyfarwydd i nifer, gyda slotiau cyson ar Prynhawn Da, Heno a BBC Radio Cymru.  Mae e hefyd wedi datblygu presenoldeb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros 18,000 o ddilynwyr ar Instagram (@adamynyrardd)!  Dechreuodd Adam arddio pan oedd yn 3 oed gan ddilyn diddordeb ei dad-cu, ac erbyn hyn mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad.  Mae’n garddio mewn modd organig, yn defnyddio’r system dim-palu ac yn cefnogi ac annog bioamrywiaeth yn ei ardd.

Adam Jones from Carmarthenshire is a renowned gardener who has recently published his first children’s gardening book ‘Dere i dyfu’ (Come and Grow).  Adam is a familiar face and voice to many with regular gardening slots on the Welsh magazine programmes, Prynhawn Da and Heno, and slots on BBC Radio Cymru.  He has also developed a large following on social media with over 18,000 followers on Instagram (@adamynyrardd).  Adam began gardening when he was only 3 years old following his grandfather’s gardening delight.  With over 20 years’ gardening experience, Adam gardens organically using the no-dig method and strives to encourage and enhance the biodiversity of his garden.

Sesiwn yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd / Welsh language session with English translation available.

Dyma anerchiad Adam (yn Gymraeg)

This is what Adam said (in English)

10.15 – 11.30

Fframio bwyd fel meddyginiaeth i gynyddu gwytnwch cenedlaethau’r dyfodol / Framing food as medicine to increase resilience for future generations 

Cadeirydd / Chair: Dr Sally Bell 

Panel: Eilish Blade, Blade Clinic; Dr Elizabeth Westaway, Growing Real Food for Nutrition CIC; Dr Laura Wilkinson, Swansea University 

Mae’r sesiwn hon yn tanlinellu pwysigrwydd Bwyd fel Meddygaeth, gan gynyddu mynediad at fwyd maethlon lleol, wedi’i gynhyrchu’n adfywiol, ar gyfer deiet iach a chynaliadwy.  Bydd siaradwyr yn archwilio sut y gellir fframio bwyd er budd iechyd y boblogaeth, enwedig yng Nghymru.  Bydd y pynciau’n cynnwys manteision bwyd go iawn ar gyfer dietau iach; rôl meddygaeth ffordd o fyw; cynyddu ansawdd bwyd drwy dyfu a mesur bwyd llawn maeth; bwydydd newydd i wella pridd a micro-biom y coludd; a sut i hysbysebu bwyd iach fel bod dinasyddion yn derbyn dulliau gwahanol yn fwy, megis bwyd agroecolegol, adfywiol a llawn maeth.  Rhagwelir sesiwn holi ac ymateb fywiog ar gwmpas Bwyd fel Meddygaeth i wrthdroi / atal clefydau nad ydynt yn gysylltiedig â deiet, gwella iechyd y boblogaeth a chynyddu gwytnwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

This session underscores the importance of Food as Medicine, increasing access to and uptake of local, regeneratively produced, nutritious food for a healthy and sustainable diet.  Speakers will explore how food can be framed to benefit population health, particularly in Wales.  Topics will include the benefits of real food for healthy diets; the role of lifestyle medicine; increasing food quality by growing and measuring nutrient dense food; novel foods to improve soil and the gut microbiome; and how to advertise healthy food so that citizens are more accepting of different approaches, such as agroecological, regenerative and nutrient dense food.  A lively Q&A is anticipated on the scope of Food as Medicine to reverse / prevent diet-related noncommunicable diseases, improve population health and increase resilience for future generations.

Gwyliwch y sesiwn fan hyn / Watch the session here

Amser coffi / Coffee break

Ymlaciwch gyda’r gân swynol hon o ddathliadau penblwydd Parc Cenedlaethol Eryri’n 70/ Relax with this wonderful song from Eryri 70’s birthday celebrations.

Dyma / Presenting… Eve Goodman x Seindorf

Diolch i Barc Cenedlaethol Eryri am rannu’r fideos gyda ni yr wythnos hon / Thanks to Snowdonia National Park for sharing the videos with us this week!

11.45 yb / am – 1.00 yp / pm

Graddfa maes cynhyrchu llysiau ar gyfer newydd-ddyfodiaid, tyfwyr profiadol a ffermwyr / Field scale vegetable production for new entrants, experienced growers and farmers

Cadeirydd / Chair: Tony Little, Landworkers’ Alliance

Panel:  Anna Young, C&M Organics; Adam Payne, Southern Roots Organics / Landworkers’ Alliance; and Nathan Richards, Troed y Rhiw Organics.   

Bydd y sesiwn ymarferol hon yn ymdrin â phynciau gan gynnwys: pwysigrwydd tyfu graddfa maes ar gyfer diogelwch bwyd yng Nghymru; tyfu ar gyfer cyfanwerthu neu ar gyfer blychau / gwerthiannau uniongyrchol ar raddfa fwy; peiriannau ar gyfer cynhyrchu llysiau ar raddfa maes; a dechrau cynhyrchu ar raddfa maes.

Trefnodd LWA Cymru ddau ymweliad fferm wyneb yn wyneb â Troed y Rhiw Organics a C&M Organics i gyd-fynd â’r sesiwn hon.  Trefnwyd yr ymweliadau hyn ar wahân i’r Gynhadledd ac roeddent yn rhad ac am ddim.

This practical session will cover topics including: the importance of field scale growing for food security in Wales; growing for wholesale or for boxes/direct sales at a larger scale; machinery for field scale vegetable production; and starting out in field scale production.

LWA Cymru organized two related in-person farm visits to Troed y Rhiw Organics and C&M Organics.  These visits were organized separately to the Conference and were free.

Gwyliwch y sesiwn fan hyn / Watch the session here

1.15 – 1.45 yp / pm

Diweddariad dros ginio / Lunch update: Cymru a chyfrifoldeb byd-eang / Wales and global responsibility

Gyda / With: Shea Buckland-Jones, WWF Cymru; Stuart Taylor, Argoed Farm.

Mae WWF Cymru, RSPB Cymru a Maint Cymru wedi cynhyrchu adroddiad newydd o’r enw ‘Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang‘, sydd, am y tro cyntaf, yn darparu dadansoddiad o gyfraniad Cymru at ddatgoedwigo byd-eang a cholli cynefinoedd.  Drwy ddadansoddi data mewnforio nwyddau ar gyfer Cymru, maent wedi gallu asesu faint mae galw Cymru am nwyddau yn gyrru datgoedwigo a cholli cynefinoedd dramor yn y gwledydd lle cynhyrchwyd y nwyddau.  Dewch i glywed mwy am yr adroddiad, a’i berthnasedd i’r sector bwyd a ffermio yng Nghymru.

WWF Cymru, RSPB Cymru and Size of Wales have produced a new report entitled ‘Wales and Global Responsibility’, which, for the first time, provides an analysis of Wales’ contribution to global deforestation and habitat loss.  By analysing commodity import data for Wales, they have been able to assess how much Wales’ demand for commodities is driving deforestation and habitat loss overseas in the countries in which the commodities were produced.  Come and hear more about the report, and its relevance to the food and farming sector in Wales.

Gwyliwch y sesiwn fan hyn / Watch the session here

And here is a transcript of the session:

2.00 – 3.15 yp / pm

Ffrwythau a chnau amrwyiol – treftadaeth, busnes, bioamrywiaeth a’r economi gylchol / Fruits and Nuts – heritage, business, biodiversity and the circular economy

Cadeirydd / Chair:  Dr Eifiona Thomas Lane

Panel: Carwyn Graves, Hanesydd bwyd / Food historian; Luke Tyler, Menter Môn; Vincent Mears, Treddafydd Organic; Simon Stranks, FareShare Cymru

Sesiwn dwyieithog integredig ac eang ei ffocws fydd yn edrych ar werth ffrwythau a chnau cynhenid i gynnig maeth, hyrwyddo busnes a chynnal bioamrywiaeth.  Bydd y sesiwn yn ystyried ffrwythau a chnau trwy lens yr economi gylchol gynaliadwy gan ystyried sut mae ffrwythau ‘gormodedd’ yn cael eu rhannu. Wrth weld y gadwyn fwyd yn ei gyfanrwydd, gallem ddeall ei werth, o’r pridd i’r plât, a dysgu sut gall gamau i reoli’r system wastraffus gyfrannu at ddarparu bwyd lleol

An integrated and wide-ranging bilingual session that will look at the value of indigenous fruits and nuts to offer nutrition, promote business and maintain biodiversity.  The session will consider fruit and nuts through the lens of the sustainable circular economy. How ‘excess’ fruit is shared will allow the food chain to be seen as a whole. From this we can better understand its value, from the soil to the plate, and learn how actions to manage a wasteful system can contribute to the provision of local food.

Sesiwn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd. / Bilingual session with English translation.

Gwyliwch y sesiwn ddwyieithog fan hyn

Amser paned / Tea break

Dysgu gyda Garden Organic: Gwneud te Comffri / Garden Organic tips: Making comfrey tea

3.30 – 4.45 yp / pm

Adeiladu’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a thyfwyr / Building the next generation of farmers and growers

Cadeirydd / Chair: Alicia Miller, Sustainable Food Trust

Panel: Hannah Norman, Tyfu Cymru; Kate Miles, DPJ Foundation; Emma Eberhardt, Landworkers’ Alliance (Flame)

Gyda llafur fferm yn cael ei dalu’n gynyddol wael a phwysigrwydd ffermio wedi dirywio o ran yr hyn y gall ei gynnig fel bywoliaeth, sut yr ydym i adfywio ffermio fel gyrfa ystyrlon?  Ffermio’n gynaliadwy yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud ar y blaned yn wyneb newid hinsawdd, ond mae arnom angen cenhedlaeth o bobl ifanc sy’n barod i wynebu oes o waith caled i newid y ffordd yr ydym yn cynhyrchu ein bwyd.  Sut mae cyfleu gwerth y gwaith hwn a beth sydd angen i ni ei wneud i gefnogi pobl ifanc yn y galw hwn?

With farm labour increasingly poorly paid and the importance of farming degraded in terms of what it can offer as a living, how are we to reinvigorate farming as a meaningful career?  Farming sustainably is one of the most important things that we can do on the planet in the face of climate change, but we need a generation of young people willing to face a lifetime of tough, hard work to change the way we produce our food.  How do we communicate the value of this work and what do we need to do to support young people in this calling?

Gwyliwch y sesiwn fan hyn / Watch the session here

4.45 – 5.00 yp / pm

Diolch a ffarwel / Thank you and goodbye

Diolch am eich presennoldeb eleni. Gobeithiwn y gwelwn i chi’r flwyddyn nesaf – mewn lleoliad go iawn! / Thank you for joining us this year. We hope to see you next year – in a real location!