Hinsawdd a Gwytnwch / Climate and Resilience

9.15 – 9.45 yb / am

Siaradwr Gwadd / Keynote Speaker: John Davies, NFU Cymru

Bu John yn Llywydd NFU Cymru ers mis Ionawr 2018. Mae’n ffermio gyda’i deulu ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu, gyda’i wraig Menna a dau o blant, Sioned a Brychan. Mae ganddo 100 o wartheg sugno, 1,000 o famogiaid, ac mae’n rhedeg busnes contractio silwair a llety gwyliau. Ar hyn o bryd mae John yn arweinydd clwb ei CFfI lleol, sef Pontfaen, ac yn gynghorydd cymuned. Bu’n Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2012, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Fwrdd Rheoli RWAS.

John has been the NFU Cymru President since January 2018.  He farms with his family in Merthyr Cynog, near Brecon with his wife Menna and two children, Sioned and Brychan.  He has 100 suckler cows, 1,000 ewes, and runs a silage contracting business and holiday accommodation.  John is currently club leader of his local Pontfaen YFC and a community councillor.  He was President of the Royal Welsh Agricultural Society in 2012 and currently sits on the RWAS Board of Management.

Dyma anerchiad John / Here is John’s address

John Davies, NFU Cymru

10.15 – 11.30 yb / am

Ar wahân neu ar y cyd? Sut mae ffermwyr a busnesau bwyd yn gwynebu her Ewrop, newid hinsawdd a chynnal cynefin? / Silo or Synergy – How do farmers and food businesses meet the challenges from Brexit, climate change & ecological diversity

Gwyliwch y fideo fan hyn / Watch the video here

Cadeirydd / Chair: Roger Kerr, Organic Farmers & Growers C.I.C.

Panel:  Chris Blake, The Green Valleys project and the Skyline report; Dafydd Morris Jones, Tŷ Mawr Farm, Ceredigion; Emily Valentine Powell & Keith Powell, Great Bettws Farm, Abergavenny; Holly Tomlinson, Landworkers’ Alliance

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn creu her i ni, tra bod tymereddau byd-eang yn codi a systemau ecolegol yn dirywio.  Yn y cyfamser rydym yn delio â heriau cymdeithasol sy’n deillio o anghydraddoldebau mewn cyfoeth, maeth, tai, addysg a hyfforddiant.  Sut y gall ffermwyr a busnesau bwyd eraill sicrhau eu bywoliaeth a chynnwys gwytnwch yn eu busnesau, a Chymru gyfan?  Daw atebion posib o integreiddio ar raddfa’r dirwedd, rhwydweithiau a hybiau bwyd, gwerthiannau uniongyrchol, integreiddio fertigol, ffermio organig, agroecoleg, technoleg a throsglwyddo gwybodaeth.  A oes unrhyw un neu bob un o’r rhain yn berthnasol, a sut y gallai’r rhain weithio gyda’i gilydd?

Our exit from the European Union brings a set of challenges, as do rising global temperatures and the collapse of ecological systems.  Meanwhile we are dealing with social challenges arising from inequalities in wealth, nutrition, housing, education and training. How can farmers and other food businesses secure their livelihoods and build resilience into their businesses, and Wales as a whole?  Possible answers come from landscape scale integration, food networks and hubs, direct sales, vertical integration, organic farming, agroecology, technology and knowledge transfer.  Are any or all of these relevant, and how could these work together?

Meddwl am amser cinio? / Thinking about lunch?

Beth am Gawl Persli a Chennin gyda Chyw Iâr Mwg (neu heb y cyw iâr i lysieuwyr)?

Diolch yn fawr iawn i Nerys Howel am y rysáit, sy’n dod o’i llyfr newydd dwyieithog “Bwyd Cymru yn ei Dymor / Welsh Food by Season”, cyhoeddir gan Y Lolfa.

What about Parsley and Leek Soup with Smoked Chicken (or without the chicken for vegetarians)?

Thank you very much to Nerys Howel for this recipe, that comes from her new bilingual book “Bwyd Cymru yn ei Dymor / Welsh Food by Season”, published by Y Lolfa.

11.45 yb / am – 1.30 yp / pm

Defnyddio COP26 i adeiladu momentwm ar gyfer polisïau bwyd sy’n helpu hinsawdd, natur a phobl / Using COP26 to build momentum for food policies which help climate, nature and people

Gwyliwch y fideo fan hyn / Watch the video here

Cadeirydd / Chair: Kate Hamilton, Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad / Food, Farming and Countryside Commission.

Gyda / with Pete Ritchie, Nourish Scotland .

Byddwn yn siarad am y ‘proses Glasgow’ – ffordd o gynnwys y gwledydd datganoledig ac awdurdodau lleol – a ffermwyr – wrth drafod polisïau bwyd cynaliadwy yn y COP.  Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cynnwys deialogau grŵp bach am sut y gall ffermwyr ac awdurdodau lleol gydweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy fwyd a ffermio – a gwahodd cyfranogwyr i feddwl am gychwyn sgyrsiau tebyg ledled Cymru.

We will be talking about the Glasgow process – a way to involve the devolved nations and local authorities – and farmers – in discussing sustainable food policies at the COP.  This interactive workshop will include small group dialogues about how farmers and local authorities can work together to tackle climate change through food and farming – and invite participants to think about kicking off similar conversations across Wales.

1.15 – 1.45 yp / pm

Gwers dros Ginio: Modd amgen o ofalu am iechyd da byw Trefnwyd gan Whole Health Agriculture

Learn at Lunch: Alternative approaches for livestock health problems Organized by Whole Health Agriculture

Dyma’r fideo a gafodd ei ddangos / Here is the video that was shown:

2.00 – 3.15 yp / pm

Bridio hadau ar gyfer systemau bwyd cyfan – neu sut y roddais y gorau i boeni am gynnyrch a dysgu i werthfawrogi enillion cyson o flwyddyn i flwyddyn / Seed breeding for whole food systems – or how I stopped worrying about yield & learned to appreciate consistent returns year on year

Gwyliwch y fideo fan hyn / Watch the video here

Cadeirydd / Chair:  Steven Jacobs, Organic Farmers & Growers

Panel:  Dr Ambrogio Costanzo, Organic Research Centre; Dr Catherine Howarth, IBERS, Prifysgol Aberystwyth University; Mark Lea, Organic farmer; Kate McEvoy, Real Seeds; Ellen Rignell, UK and Ireland Seed Sovereignty Programme.

Mae bridio hadau yn hanfodol er mwyn cynnal diogelwch bwyd. Yn y degawdau diwethaf, mae bridio wedi’i wneud yn bennaf o dan nawdd cwmnïau rhyngwladol mawr. Gall y manteision gynnwys buddsoddiad mawr. Gall yr anfanteision gynnwys diffyg ffocws i ranbarthau neu fioranbarthau penodol, ac mae rhai beirniaid wedi dweud bod ffocws rhy dynn wedi bod ar gynnyrch unrhyw amrywiaeth penodol o gnydau ar draul ei barhad. Mae hyn yn fwy difrifol yn awr mae gennym fwy o debygolrwydd o ddigwyddiadau hinsoddol eithafol a chyflwr ein systemau cymorth ecolegol sy’n gwaethygu.

Beth sydd y tu ôl i’r senarios hyn a sut y gallwn barhau i ddatblygu bridio hadau nawr ac ar gyfer y dyfodol?

Seed breeding is vital to maintain food security.  In recent decades breeding has been undertaken mainly under the auspice of large multinational companies.  The advantages they bring can include large investment.  The disadvantages can include a lack of focus to particular regions or bioregions, and some critics have said there has been too tight a focus on the yield of any given crop variety at the expense of its durability.  This is all the more serious now we have an increased likelihood of extreme climatic events and a worsening state of our ecological support systems.

What lies behind these scenarios and how can we continue to develop seed breeding now and for the future?

Noddwyd gan / Sponsored by Organic Farmers & Growers

3.30 – 4.00 yp / pm

Paned a Fideo: Sut i dyfu gartref yn hinsawdd ddoeth gyda Kim Stoddart, Garden Organic

Tea Break Tips: Video: How to become a climate change savvy home food grower with Kim Stoddart, Garden Organic

4.15 – 5.30 yp / pm

Rheoli iechyd o fferm i fforc / Managing health from farm to fork

Gwyliwch y fideo fan hyn / Watch the video here

Cadeirydd / Chair: Lawrence Woodward, Whole Health Agriculture

Panel: Dr Sally Bell, GP and functional medicine practitioner; Anne Evans, Blaencamel Farm, Aeron Valley; Dr Peter Mansfield, GP, leading thinker and pioneer of wholistic approaches to family and community- based medicine; Sally Woods, Pembrokeshire dairy farmer.

Gwneud iechyd yn heintus drwy ffermio a bwyd. Bydd y sesiwn hon yn edrych yn enghreifftiau ymarferol o ffermio ar gyfer iechyd, a sut mae ffermwyr, maethegwyr a meddygon teulu yn gweld rheoli iechyd o fferm i fforc. Bydd yn cynnwys cyflwyniadau byr gan ffermwyr Cymru a thrafodaeth banel sy’n cynnwys ffermwyr a phobl o’r proffesiynau maeth a meddygol.

Making health infectious though farming and food. This session will look practical examples of farming for health, and how health management from farm to fork is seen by farmers, nutritionists and GPs. It will include short presentations from Welsh farmers and a panel discussion involving farmers and people from the nutrition and medical professions.

6.00 – 7.00 yh / pm

Cwis Bwyd a Ffermio Byd-Eang / Worldwide Food and Farming Quiz

Os am ymlacio dros baned ar ddiwedd y dydd cyntaf bydd cwis byr yn cael ei drefnu gan fyfyrwyr Daearyddiaeth Bwyd Prifysgol Bangor.  Dyma ychydig o hwyl anffurfiol ond DIM GWGLO!

Bangor University Food Geographers will be organising a short quiz with multiple choice answer for some fun informal learning over a cuppa at the end of the first day.  However, NO GOOGLE-ING! We’re trusting you….

8.00 yh / pm

Sut y gallwn wneud Cymru’n dirwedd gynhyrchiol yn yr 21ain ganrif? Gwersi gan yr arloeswyr amaethyddol Thomas Johnes a George Stapledon. / How can we make Wales a productive landscape in the 21st century? Lessons from the agricultural pioneers Thomas Johnes and George Stapledon.

Gwyliwch y fideo fan hyn / Watch the video here

Cadeirydd / Chair: Dr Judith Thornton, IBERS, Prifysgol Aberystwyth University

Gyda / With: Athro / Prof Iain Donnison, IBERS, Prifysgol Aberystwyth University

Trawsnewidiodd Thomas Johnes ystâd ucheldir Hafod ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, drwy amrywiaeth o ddatblygiadau arloesol mewn hwsmonaeth anifeiliaid, plannu coed a dewis amrywiaeth cnydau.  Yn yr 20fed ganrif, Cyfarwyddwr Gorsaf Bridio Planhigion Cymru oedd George Stapledon, gan oruchwylio datblygiadau mewn amaethyddiaeth a chynhyrchiant glaswelltir.  Yn y sgwrs hon, byddwn yn ystyried pa wersi y gallwn eu cymryd gan yr arloeswyr hyn ac yn trafod sut y gallwn integreiddio nodau cynhyrchu bwyd, lliniaru newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, a chynnal bywoliaeth wledig yn yr 21ain ganrif.

Thomas Johnes transformed the Welsh upland estate of Hafod in the late 18th and early 19th century, via a range of innovations in animal husbandry, tree planting and crop variety choice.  In the 20th century, George Stapledon was Director of the Welsh Plant Breeding Station, overseeing developments in grassland agriculture and productivity. In this talk we will consider what lessons we can take from these pioneers and discuss how we can integrate the goals of food production, climate change mitigation, biodiversity, and the maintenance of rural livelihoods in the 21st century.