Ar y fferm / On the farm

9.15 – 9.45 yb / am

Siaradwraig Wadd / Guest Speaker: Yr Athro / Prof Lois Mansfield

Mae Lois Mansfield yn Athro Tirweddau Ucheldir ar gampws Ambleside Prifysgol Cumbria, lle mae’n Gyfarwyddwr y Campws ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd Gwarchodedig.  Mae hi wedi treulio pum mlynedd ar hugain yn ymchwilio i amaethyddiaeth yr ucheldir ac mae angen o leiaf pump arall ar hugain i’w deall!  Ar hyn o bryd mae’n cadeirio grŵp Cynghori Technegol Safle Treftadaeth y Byd Ardal y Llynnoedd.

Lois Mansfield is Professor of Upland Landscapes at the Ambleside campus of the University of Cumbria, where she is both the Campus Director and the Director for the Centre for National Parks & Protected Areas.  She has spent twenty-five years investigating upland agriculture and needs at least another twenty-five to understand it!  She currently chairs the Lake District World Heritage Site Technical Advisory group.

Dyma anerchiad Lois / Here is Lois’ speech.

10.15 – 11.30 yb / am

Pwysigrwydd da byw mewn system ffermio integredig / The importance of livestock in integrated farming systems

Cadeirydd / Chair: Haydn Evans, Soil Association and Welsh Organic Forum

Panel:  Elfyn Davies, Glancynin Farm; Alex Higgs, Glyn Jones

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos bod y sector da byw wedi’i feirniadu ar naratif cul newid yn yr hinsawdd ac allyriadau methan.  Fodd bynnag, ychydig a ddywedir am bwysigrwydd da byw o ran ailgylchu maetholion – uwchlaw ac islaw’r ddaear –, bioamrywiaeth, a’r rôl allweddol y mae’n ei chwarae o ran dal a storio carbon.  Beth yw’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermwyr sy’n ceisio gweithredu systemau ffermio integredig?

At the moment the livestock sector seems to be vilified on the narrow narrative of climate change and methane emissions.  However, little is said about the importance of livestock with regards to nutrient recycling – above and below ground –, biodiversity, and the key role it plays in carbon sequestration.  What are the challenges and the opportunities facing farmers trying to operate integrated farming systems?

Noddwyd gan / Sponsored by Soil Association

Sesiwn ddwyieithog gyda chyfieithiad / Bilingual session with English translation available.

Gwyliwch y sesiwn ddwyieithog fan hyn

Amser coffi? / Coffee break?

Dathlu pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri gyda… / Celebrate Snowdonia National Park’s birthday with…

Teleri Fielden a Ned Feesey, ffermwyr Eryri / Snowdonia farmers

Gyda chaniatâd caredig Parc Cenedlaethol Eryri / With the kind permission of Snowdonia National Park

11.45 yb / am – 1.00 yp / pm

Ffermio ar gyfer y dyfodol: Pam nad yw GMOs yn wyrdd / Farming for the future: Why GMOs aren’t green

Cadeirydd / Chair: Kate McEvoy, Real Seeds

Panel: Liz O’Neill, GM Freeze; Steven Jacobs, Organic Farmers & Growers

Mae technegau golygu genynnau newydd yn cael eu galw’n ateb i broblemau sy’n amrywio o newyn a newid yn yr hinsawdd i dost wedi’i losgi.  Mae Boris Johnson yn awyddus i gael gwared ar fesurau diogelu rheoleiddiol ac mae wedi egluro ei fwriad i agor drws y DU i ‘GMOs newydd’ cyn gynted â phosibl.  Byddai’n well gan lawer weld gwell mesurau diogelu rheoleiddiol ar gyfer ein systemau bwyd a naturiol, a mwy o gefnogaeth i raglenni arloesol sy’n synhwyrol yn ecolegol, e.e. bridio cnydau esblygol. Bydd y drafodaeth hon yn esbonio hanfodion yr hyn sy’n digwydd a pham mae’n bwysig, cyn eich gwahodd i ‘ofyn unrhyw beth i ni’ am GMOs mewn bwyd a ffermio.

New gene editing techniques are being hailed as the solution to problems ranging from world hunger and climate change to burnt toast.  Boris Johnson is keen to remove regulatory safeguards and has made plain his intention to open the UK’s door to ‘new GMOs’ as quickly as possible.  Many would prefer to see better regulatory safeguards for our food and natural systems, and greater support for innovative programmes that really are ecologically sensible, e.g. evolutionary crop breeding.  This discussion will explain the basics of what’s happening and why it matters, before inviting you to ‘ask us anything’ about GMOs in food and farming.

Noddwyd gan / Sponsored by Organic Farmers & Growers

Gwyliwch y sesiwn fan hyn / Watch the session here

1.15 – 1.45 yp / pm

Diweddariad dros ginio / Lunchtime update: Gweledigaeth ar gyfer ein fferm: Coleg y Mynydd Du / A vision for our farm:  Black Mountains College

Cadeirydd / Chair: Jayne Hunt, Black Mountains College

Panel: Ian Rappel, Black Mountains College; Sue Pritchard, FFCC

Mae Coleg y Mynydd Du wedi caffael fferm gymysg gyda 120 erw i archwilio, gwarchod a dysgu.  Rydym am i’n fferm gydbwyso anghenion bwyd, cynefinoedd ac amgylcheddol, tra’n bod mor hunangynhaliol o ran bwyd ac ynni â phosibl, ac i ddarparu cyfleoedd dysgu.  Dyma gyfle i ddiweddaru cymuned CGFFfC ar gynnydd CMD, gwahodd cyfranogwyr i gymryd rhan yng ngweledigaeth y fferm ac archwilio’r heriau o ymgorffori egwyddorion amaeth-ecolegol mewn menter newydd.

Black Mountains College has acquired a mixed farm with 120 acres to explore, conserve and learn.  We want our farm to balance food, habitat and environmental needs, whilst being as self-sufficient in food and energy as possible, and to provide learning opportunities.  This is an opportunity to update the WRFFC community on BMC’s progress, invite participants to engage in the farm vision and to explore the challenges of embedding agroecological principles in a new enterprise. 

Gwyliwch y sesiwn fan hyn / Watch the session here

2.00 – 3.15 yp / pm

Amaeth-goedwigaeth yn yr ucheldiroedd: Plannu coed sy’n addas i ffermwyr / Agroforestry in the uplands: The farmer-friendly tree planting?

Cadeirydd / Chair: Ben Raskin; Soil Association

Panel: Jerry Langford, Coed Cadw / Woodland Trust; Matt Swarbrick, Henbant; Glasnant Morgan, Talybont-on-Usk

Mae amaeth-goedwigaeth mewn ffermydd ucheldir yn rhoi opsiynau i ffermwyr da byw sy’n cyfuno ffermio carbon isel cynaliadwy gydag adnoddau dŵr, bywyd gwyllt a gwelliannau i’r dirwedd.  Mae amaeth-goedwigaeth yn darparu dewisiadau gwahanol i goedwigaeth neu glaswelltir ungnwd ac yn cynnal rôl ffermio wrth reoli tirweddau ucheldir.  Ond pa ddyluniadau porfa goedwigaeth sy’n bodoli sy’n cyfuno cynhyrchiant yn effeithiol â hybu gorchudd coed mewn amgylchedd ucheldir?  A pha ystyriaethau ymarferol y mae angen i ffermwyr a rheolwyr tir eu cymryd cyn plannu coed?  Ymunwch â’r sesiwn hon i glywed gan ffermwyr sydd wedi llwyddo i adeiladu coed yn eu systemau da byw a’r cynghorwyr sy’n helpu eraill i wneud yr un peth.  Byddwn yn trafod costau a manteision gwahanol ddulliau gweithredu, sut y gall coed wella’r amgylchedd a’r llinell waelod yn sylweddol a sut y gellid cynnwys cymorth ar gyfer amaeth-goedwigaeth yng Nghynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Cymru.  Bydd cyflwyniadau’n rhoi llais i’r rhai yn yr ucheldiroedd sydd wedi bod yn mynd ar drywydd amaeth-goedwigaeth a bydd yn agor lle i ffermwyr a rheolwyr tir ofyn cwestiynau ymarferol am hyfywedd yr arfer hwn.

Agroforestry in upland farms is providing livestock farmers with options that combine sustainable low carbon farming with water resource, wildlife and landscape improvements.   Agroforestry provides alternatives to forestry or grassland monocultures and maintains the role of farming in managing upland landscapes.  But what silvopasture designs exist that effectively combine productivity with boosting tree cover in an upland environment?  And what practical considerations do farmers and land managers need to take before planting trees?  Join this session to hear from farmers who have successfully built trees into their livestock systems and the advisors who are helping others to do the same.  We will be discussing the costs and benefits of different approaches, how trees can radically improve both the environment and the bottom line and how support for agroforestry could be built into Wales’ new Sustainable Farming Scheme.  Presentations will give a voice to those in the uplands who have been pursuing agroforestry and will open up a space for farmers and land managers to ask practical questions about the viability of this practice.

Gwyliwch y sesiwn fan hyn / Watch the session here

Amser paned / Tea break

Dysgu gyda Garden Organic: Rheoli gwlithod a malwod yn yr ardd organig / Garden Organic tips: Managing slugs and snails in the organic garden

3.30 – 4.45 yp / pm

Gweithio cydweithredol: Ar y fferm, rhwng ffermydd a thrwy ganolfannau bwyd / Co-operative working: On farm, between farms and through food hubs

Cadeirydd / Chair: Alice Taherzadeh

Panel: Jono Hughes, Landworkers’ Alliance; Tony Little, Landworkers’ Alliance; Nick Weir, Open Food Network

Sut y gall rhwydweithiau bwyd lleol weithio’n gydweithredol i gryfhau ac ymestyn eu cyrhaeddiad? Onid yw’n well cydweithio yn hytrach na chystadlu fel endidau unigol? Mae’r gwerth yn y cysylltiadau hyn yn aml yn cael ei anwybyddu, ond mae cymaint o botensial o ran gwau gwe o ffermydd bach a chanolig, cynhyrchwyr bwyd a chanolfannau bwyd at ei gilydd, sy’n gallu cynnig cryfder mewn niferoedd a chefnogi ei gilydd mewn mentrau a rennir. P’un a yw’n dod â phobl amrywiol at ei gilydd i ddechrau fferm, dod o hyd i ddarn o dir i gefnogi gwahanol fathau o gynhyrchwyr bwyd, datblygu cynllun bocs ar draws grŵp o ffermwyr sy’n cyfrannu gwahanol bethau bwyd neu greu cyfran o beiriannau lleol, gall y bach a’r unigolyn wneud llawer mwy wrth gydweithio.

How can localised food networks work cooperatively to strengthen and extend their reach? Isn’t better to work together rather than compete as individual entities? The value in these connections is often overlooked, but there is so much potential in knitting together a web of small and medium farms, food producers and food hubs, that can offer strength in numbers and support each other in shared ventures. Whether it’s bringing together diverse people to start a farm, finding a plot of land to support different kinds of food producers, developing a box scheme across a group of farmers contributing different food stuffs or creating a localised machinery share, the small and individual can do much more when working together.

Gwyliwch y sesiwn fan hyn / Watch the session here

5.00 – 5.30 yp / pm

Cyfle i gwrdd mewn grwpiau bach ac ymateb i drafodaethau’r diwrnod / A chance to meet in small groups and respond to the discussions of the day.

7.30 – 8.30 yh / pm

Dewch â diod a mwynhewch awr o adloniant yng nghwmni… / Bring a drink and enjoy an entertaining hour in the company of….

Harriet Earis (telynores / harpist) a / and Tom Bullough (awdur / author)