Mae’r CGFFC yn gynhadledd annibynnol sy’n cael ei chynnal gan y mudiad, er budd y mudiad. / The WRFFC is an independent conference run by the movement for the movement. 

CENHADAETH

En cenhadaeth yw cefnogi bwyd a ffermio sydd o fudd i gymunedau ac amgylchedd Cymru.

BWRIAD

Rydym yn gwneud hyn drwy gefnogi’r bobl sy’n gwneud iddo ddigwydd, a thrwy gynnal cynhadledd sy’n:

  1. Meithrin ac ysbrydoli pobl yn y mudiad
  2. Ysbrydoli pobl newydd i ymuno â’r mudiad
  3. Arddangos a chodi proffil y mudiad ymhlith llunwyr polisi a chyllidwyr

Cyflawnir hyn drwy greu gofod lle gall pobl rannu heriau a llwyddiannau, cysylltu a dysgu oddi wrth eraill, cael eu herio a datblygu syniadau, a chael eu hysbrydoli.

GWERTHOEDD CRAIDD

1. Wedi’i Wreiddio mewn Lle a Phobl

Rydym yn dathlu tir, iaith a diwylliant Cymru, ac yn parchu’r lleisiau, hanesion, gwybodaeth a thraddodiadau sy’n ei siapio. Credwn fod newid parhaol yn dechrau gyda phobl ac yn tyfu o’r gwaelod i fyny.

2. Cynhwysol a Chwilfrydig

Rydym yn croesawu lleisiau a safbwyntiau amrywiol, ac yn creu gofod ar gyfer gwahanol ffyrdd o wybod, siarad a bod. Rydym yn annog sgyrsiau gonest, her adeiladol a pharodrwydd ar y cyd i ddysgu.

3. Wedi’i Seilio ar Berthnasoedd

Rydym yn adeiladu perthnasoedd, nid trosglwyddiant, ac yn meithrin ymddiriedaeth, haelioni a gofal.

4. Ymrwymiad

Rydym yn anrhydeddu ymrwymiad, gwytnwch ac ysbryd cymunedol y rhai sy’n gweithio tuag at system fwyd decach, iachach a mwy cynaliadwy.

5. Byw’r Newid

Mae ein cynhadledd yn rhan o’r mudiad: wedi’i siapio ganddo, er ei fudd, ac i’w wasanaethu. Dyma sut rydym yn cefnogi ein cymuned nawr ac yn gwireddu’r dyfodol yr ydym am ei adeiladu gyda’n gilydd.

MISSION

Our mission is to support food and farming that is good for the communities and environment of Wales.

AIMS

We do this by supporting the people who make it happen, and by holding a conference that:

  1. Nurtures and inspires people in the movement
  2. Inspires new people to join the movement 
  3. Showcases and builds the profile of the movement to policy makers and funders

This is achieved by creating a space where people can share challenges and successes, connect and learn from others, be challenged and develop thinking and be inspired.

CORE VALUES

1. Grounded in Place and People

We celebrate the land, language and culture of Wales, and respect the voices, histories, knowledge and traditions that shape it. We believe lasting change starts with people and grows from the ground up.

2. Inclusive and Curious

We welcome diverse voices and perspectives, and create space for different ways of knowing, speaking and being. We encourage honest conversation, thoughtful challenge and a shared willingness to learn.

3. Built on relationships

We build relationships, not transactions, and nurture trust, generosity and care.

4. Commitment

We honour the commitment, resilience and community spirit of those working towards a fairer, healthier and more sustainable food system.

5. Living the Change

Our conference is part of the movement: shaped by it, for it, and in service of it. This is how we support our community now and embody the future we want to build together.