Mae hi bellach yn rhyw bythefnos ers trydedd gynhadledd flynyddol Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, a’r cyntaf i mi fod ynghlwm â hi yn swyddogol. Dyma fy mhrofiad llawn cyntaf o’r gynhadledd a chefais y fraint o gael fy ngwahodd i’r pwyllgor ac i gyfrannu at sesiwn banel ar Strategaeth Fwyd Cymunedol.
Er y bu rhaid i ni unwaith eto fodloni ar gynhadledd rithiol, roedd y nifer a ymunodd gyda’r tri diwrnod o sesiynau amrywiol yn galonogol ac yn profi’r awydd sydd o bob rhan o’r system fwyd i ddod ynghyd a thrafod y maes. A dyma’r rheswm yr oeddwn i, fel ffermwr, mor awyddus i fod ynghlwm â’r gynhadledd. Gyda’r cysylltiad rhwng ffermio a bwyd yn ddieithr i ran helaeth o gymdeithas, mae cynhadledd sydd â’r nod o ail-gyfuno’r ddau mor bwysig, wrth i ni sefyll ar drothwy polisi amaeth cwbl newydd.
Cawsom ddechrau gwych i’r gynhadledd gyda’r Athro Tim Lang yn trafod sialensau’r system fwyd a’r nodweddion positif oedd gan Gymru i wella’r sefyllfa. Dangosodd pam ei fod mor flaengar yn y maes a gosod y safon am drafodaethau bywiog drwy’r gynhadledd. Roedd hi’n braf gweld cymaint oedd yn cael ei wneud yn y gymuned yn barod i ddod â bwyd maethlon i nifer o bobl. Y sialens oeddwn i’n gweld oedd sicrhau bod polisïau amaeth a bwyd y dyfodol yn asio ac yn dod â buddion i ffermwyr, cymunedau a Chymru gyfan.
Yn ogystal ag ymdrin â pholisi, cafwyd enghreifftiau ymarferol o sut oedd ffermwyr yn mynd ati i ffermio yn gynaliadwy a defnyddio dulliau fel agro-goedwigaeth. Cafwyd hefyd sesiwn yn trafod ac esbonio pwysigrwydd da byw mewn systemau integredig – rhywbeth sy’n hawdd i’w anghofio dyddiau yma gyda chymaint o bwysau yn dod yn sgîl newid hinsawdd.
Trodd y ffocws ar y diwrnod olaf at fwyd ar y plât ac yn y gymuned gyda phanelwyr yn amlygu’r pwysigrwydd o fwyd maethlon, lleol i hybu iechyd – elfen arall glir a fyddai yn elwa o bolisi bwyd ac amaeth integredig.
Wedi darllen yn ddigalon y ffordd mae ffermio a bwyd dal yn cael eu hysgaru mewn sawl ymgynghoriad diweddar, roedd gweld cymaint o gefnogaeth dros gynhyrchu bwyd lleol yn hynod o galonogol. Mae hefyd yn profi ei bod hi mor bwysig i ddod â phawb sy’n ymwneud â chynhyrchu a darparu bwyd yng Nghymru ynghyd er mwyn cryfhau y cysylltiadau a siarad gyda llais cryf dros sector sydd mor bwysig i’n gwlad.
Wrth edrych ymlaen at gynhadledd 2022, gobeithio y byddwn unwaith eto yn gallu dod ynghyd a gadael cyfyngiadau Zoom, er mor ddefnyddiol y mae wedi bod dros y cyfnod yma! Wrth i ddyfodol amaeth a bwyd yng Nghymru gael ei drafod mewn sawl mesur o flaen y Senedd dros y flwyddyn nesaf, bydd rôl bwysig y Gynhadledd o amlygu’r cysylltiad cadarn sydd rhwng y ddau yn fwy pwysig byth.
Rhodri Elfyn Jones, ffermwr ac aelod o Bwyllgor CGFFfC
(Llun: Jane Ricketts Hein)
Hoffem ddiolch ein noddwyr eleni: Bwyd a Diod Cymru; Organic Farmers & Growers CIC.; Hybu Cig Cymru; Cynghrair Gweithwyr y Tir; Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur; Soil Association; a Real Seeds.
Rhoddir fideos o’r sesiynau ar ein sianel YouTube ac mae’r ffilmiau byr gan Barc Genedlaethol Eryri, Garden Organic a’r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur dal ar gael ar ein gwefan (Mercher, Iau, Gwener).