(Scroll down for English)

Mae llawer o newidiadau’n wynebu ein cymdeithas: gwleidyddol (yn amlwg), technolegol a hinsawdd, i enwi ond ychydig. Mae llawer yn y diwydiant bwyd-amaeth yng Nghymru yn addasu i’r newidiadau hyn trwy gymhwyso’r wyddoniaeth ddiweddaraf i’w cwestiynau busnes: sut allwn ni ddangos ein cymwysterau amgylcheddol? Sut rydym yn gwneud ein gwastraff hylif yn fwy diogel ac yn cynyddu ei werth? Sut allwn ni wella ein strategaethau pecynnu i leddfu llygredd plastig a bodloni gofynion defnyddwyr, heb wastraffu cynnyrch? Sut y gellir cymhwyso technolegau manwl i gynhyrchiant da byw neu garddwriaethol?

Mae Cymru yn gartref i rai o’r cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yn y byd ac wedi dangos twf sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd mae’r diwydiant yn werth bron i £7bn i economi Cymru ac mae llawer o’i gynnyrch yn cael eu cydnabod am eu rhagoriaeth gyda statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI). Sut allwn ni sicrhau bod y cynhyrchion byd-enwog hyn yn gallu cyrraedd marchnadoedd newydd? Ar ôl Brexit bydd diwydiant bwyd a diod Cymru yn derbyn hwb ariannol  o £22m i adeiladu ar eu llwyddiant hyd yma a helpu’r sector i ffynnu. Yn ogystal, mae’r gronfa Economi Gylchol newydd werth £6.5m wedi cael ei gyhoeddi i helpu busnesau i ymgorffori deunyddiau wedi’u hailgylchu yn well yn eu cynhyrchion a dod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.

Mae manteisio ar yr ymchwil ddiweddaraf a deall sut y gallwch ddefnyddio ‘meddwl economi gylchol’ i helpu i wneud eich busnes yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn fwy gwydn yn gam pwysig tuag at ddatblygu eich atebion arloesol eich hun. Mae BioArloesedd Cymru, sef partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe, yn rhaglen newydd sy’n cynnig hyfforddiant ar-lein lefel uchel i fusnesau ac unigolion yn sectorau bwyd-amaeth a biotechnoleg Cymru. Mae cynnig y cyrsiau hyn yn ddwyieithog yn sicrhau bod pobl Cymru yn gallu astudio yn eu iaith dewisol. Mae cynyddu argaeledd y cyrsiau hyn yn y Gymraeg yn ehangu’r seilwaith technolegol yng Nghymru ac yn hysbysebu’r ffaith nad oes rhaid i gymwysterau ôl-raddedig gwyddoniaeth fod yn uniaith Saesneg.

Mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru wedi dod ar adeg bwysig iawn, gyda’n hymadawiad buan o’r UE a’r holl heriau anochel a fydd yn cyflwyno i’r sector bwyd-amaeth. Yn hynny o beth, rydym yn falch iawn o allu noddi’r gynhadledd ac yn falch o fod yn rhan o’r sgwrs amserol iawn hon.

Mae ein cyrsiau ar-lein nesaf yn dechrau ym mis Chwefror 2020– ac am ddim ond £165 y modiwl, mae’n werth ymweld â BioArloesedd Cymru i weld a oes gennym rywbeth y gallai eich busnes ei ddefnyddio.

_________________

There are many changes facing our society: political (obviously), technological and climatic, to name but a few. Many in the Welsh agri-food industry are adjusting to these changes by applying the latest science to their business questions: how can we demonstrate our environmental credentials? How can we make our liquid waste safer and increase its value? How can we improve our packaging strategies to ease plastic pollution and meet consumer demands, without wasting produce? How can precision technologies be applied to livestock or horticultural production?

Wales is home to some of the best food and drink producers in the world and has shown significant growth in recent years. The industry is currently worth nearly £7bn to the Welsh economy and many of its products are recognized for their excellence with Protected Geographical Indication (PGI) status. How can we ensure that these world-famous products can reach new markets? Post Brexit, the Welsh food and drink industry will receive a £22m cash boost to build on their success to date and help the sector thrive. In addition, a new £6.5m Circular Economy fund has just been announced to help businesses to better incorporate recycled materials into their products and become more environmentally sustainable.

Tapping into the latest research and understanding how you can use ‘circular economy’ thinking to help to make your business more environmentally sustainable and more resilient is an important step towards developing your own innovative solutions. BioInnovation Wales, a partnership between Aberystwyth and Swansea Universities, is a new programme offering high-level on-line training to businesses and individuals in Wales’ agri-food and biotechnology sectors. Offering these courses bilingually ensures that the people of Wales are able to study in their preferred language. Increasing the availability of these courses in Welsh expands the technological infrastructure in Wales and advertises the fact that science postgraduate qualifications do not have to be in English only.

The Wales Real Food and Farming Conference has come at a really important time, with our imminent departure from the EU and all the challenges that it will inevitably bring to the agri-food sector. As such, we are delighted to be able to sponsor the conference and pleased to be part of this very timely conversation.

Our next online courses start in February 2020 – at just £165 per module it’s worth visiting BioInnovation Wales to see if we have something that you or your business could use.