D.S. Trefnwyd y teithiau i gyd gan sefydliadau eraill: ni fydd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru’n gyfrifol am yr ymweliadau.
Buodd y teithiau i gyd yn digwydd ar ddydd Gwener 25ain Tachwedd.
NB. All visits were arranged by other organizations: Wales Real Food and Farming Conference are not responsible for these tours.
All the visits took place on Friday 25th November.

Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark Farm Conservation Centre
Cwrdd / Meet | 10.00 yb / am; Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark Farm Conservation Centre, Betws Bledrws, Lampeter, SA48 8PB. |
Hyd y daith / Length of trip | 2 awr / hours |
Beth fydd yna? / What to expect | Taith gerdded tywys a sgwrs. Prosiect arloesol, a sefydlwyd yn yr 1980au, gan arddangos amrywiaeth o ffyrdd i hyrwyddo bioamrywiaeth ac ymgysylltu â chymuned ar hen dir amaethyddol. Mae Fferm Denmark bellach yn warchodfa natur lewyrchus 40 erw sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i wirfoddoli, hyfforddiant, digwyddiadau, gwyliau ac yn bwysicaf oll i fywyd gwyllt ffynnu. Lluniaeth ar ôl cyrraedd. Am ddim, ond gadewch rodd i gefnogi’n gwaith cadwraeth, os gwelwch yn dda. Bydd y Siop Fach Werdd hefyd ar agor ar gyfer crefftau wedi eu gwneud yn lleol, anrhegion ac ychydig o siopa Nadolig. A talk / guided walk. A ground-breaking project, established in the 1980s, showcasing a variety of ways to promote biodiversity and engage with community on former agricultural land. Denmark Farm is now a thriving 40-acre nature reserve offering a variety of opportunities for volunteering, training, events, holidays and most importantly for wildlife to prosper. Refreshments on arrival. Free, but please leave a donation to support the conservation work. The Little Green Shop will also be open for locally made crafts, gifts and some Christmas shopping. |
Trefnwyd gan / Organized by | Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark Farm Conservation Centre |

Gwinllan Llaethliw Vineyard
Cwrdd / Meet | 11.00 yb / am; Gwinllan Llaethliw Vineyard, Neuadd Lwyd, Aberaeron SA48 7RF. |
Hyd y daith / Length of trip | 2 awr / hours |
Beth fydd yna? / What to expect | Sgwrs a blasu gwin. Te a choffi ar gael. Am ddim, a bydd cyfle i chi brynu gwin. Taith ddwyieithog. Maes parcio. Talk and wine tasting. Tea and coffee available. Free of charge, but there will the opportunity to buy wine. Bilingual session. Parking on site. |
Trefnwyd gan / Organized by | Canolfan Tir Glas, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant / University of Wales Trinity St David. |

Teithiau Campws / Campus Tours
Cwrdd / Meet | 11.00 yb / am; 1822 Café (ar bwys neuadd bwyta’r Gynhadledd / near the Conference dining hall) |
Hyd y daith / Length of trip | 2 awr / hours |
Beth fydd yna? / What to expect | Taith tywys o gwmpas Campws Llambed, ei adeiladau hanesyddol a chasgliadau arbennig. Am ddim. Guided tour of the Lampeter Campus, its historic buildings and special collections. Free. |
Trefnwyd gan / Organized by | Canolfan Tir Glas, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant / University of Wales Trinity St David. |

Fferm Treberfedd Farm
Cwrdd / Meet | 2.00 yp / pm: Treberfedd, Farm, Treberfedd Lampeter, SA48 7NW |
Hyd y daith / Length of trip | 2-2.5 awr / hours |
Beth fydd yna? / What to expect | Mae Fferm Treberfedd wedi cael ei rheoli gan Jack Cockburn a’i deulu ers 1999. Ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd, maent wedi arallgyfeirio i lawer o weithgareddau eraill. Mae’r fferm yn helpu i warchod bridiau prin, wrth gadw gwartheg Henffordd traddodiadol a defaid lleol Llanwenog. Mae’r tir fferm wedi’i ardystio’n gwbl organig ers 2005. Mae’r gwrychoedd a’r caeau wedi cael eu rheoli ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â ffermio, ac maen nhw’n berwi gyda bywyd gwyllt. Mae Jack a’i deulu yn edrych ymlaen at eich croesawu i Fferm Treberfedd am dro a thrafodaeth ar ffermio, bwyd, byd natur a’r amgylchedd. Bydd te, coffi a chacen ar gael. Am ddim, ond gadewch rodd i helpu talu costau, os gwelwch yn dda. Treberfedd Farm has been run by Jack Cockburn and his family since 1999. Alongside food production, they have diversified into many other activities. The farm helps to conserve rare breeds, keeping traditional Hereford cattle and local Llanwenog sheep. The farmland has been certified fully organic since 2005. The hedgerows and fields have been managed for wildlife as well as farming, and they are teeming with life. Jack and his family look forward to welcoming you to Treberfedd Farm for a walk and discussion on farming, food, nature and the environment. Tea, coffee and cake will be available. Free, but please leave a donation to help cover costs. |
Trefnwyd gan / Organized by | RSPB Cymru a NFFN |

Fferm Bwlchwernen Fawr Farm (Holden Farm Dairy)
Cwrdd / Meet | |
Hyd y daith / Length of trip | 2-3 awr / hours |
Beth fydd yna? / What to expect | 300 erw o fferm laeth organig gymysg sydd yn dathlu 50 mlynedd yn 2023. Hi yw’r fferm laeth sydd wedi cael ei chofrestru yn organig am yr amser hiraf yng Nghymru. Bydd yr ymweliad yn cynnwys taith gerdded fferm fer, ymweld â’r llaethdy caws a sesiwn sgwrs, holi ac ateb gyda Patrick Holden yn ein sgubor dyrnu (gwresog), sydd hefyd â thoiledau. Blasu caws, gyda chyfle i brynu caws a chig llo tywyll (ruby veal). Lluniaeth ysgafn ar gael. Am ddim, ond gadewch gyfraniad, os gwelwch yn dda. 300 acre mixed organic dairy farm celebrating 50 years in 2023. It is the longest standing registered organic dairy farm in Wales. The visit will include a short farm walk, visit to the cheese dairy and a talk and Q&A session with Patrick Holden in our (heated) threshing barn, which also has toilets. Cheese-tasting, with the opportunity to buy cheese and ruby veal. Light refreshments available. Free, but please leave a donation. |
Trefnwyd gan / Organized by | Sustainable Food Trust and Holden Farm Dairy |