D.S. Trefnwyd y teithiau i gyd gan sefydliadau eraill: ni fydd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru’n gyfrifol am yr ymweliadau. Digwyddon nhw ar ddydd Gwener 22ain Tachwedd.
NB. All visits were arranged by other organizations: Wales Real Food and Farming Conference is not responsible for these tours. They took place on Friday 22nd November.

Fferm Bwlchwernen Fawr Farm (Holden Farm Dairy)
| Cwrdd / Meet | 9.30 yb ddechrau am 10.00 / 9.30 am for 10.00 start; Holden Farm Dairy, Bwlchwernen Fawr, Lampeter, SA48 8PS |
| Hyd y daith / Length of trip | 2-3 awr / hours |
| Beth fydd yna? / What to expect | Taith gerdded fferm a thaith o laethdy caws, dan arweiniad Patrick Holden. 300 erw, a reolir yn organig ers 1973. 90 o wartheg llaeth ynghyd â dilynwyr, gan gynhyrchu 30 tunnell o gaws, moron un erw ynghyd â cheirch du. Wedi’i ddilyn gan drafodaeth yn ysgubor dyrnu. Cyfraniad gwirfoddol o £5.00 am luniaeth. Farm walk and tour of cheese dairy, led by Patrick Holden. 300 acres, managed organically since 1973. 90 dairy cows plus followers, producing 30 tonnes cheese, one acre of carrots plus black oats. Followed by discussion in threshing barn. Voluntary £5.00 contribution for refreshments. |
| Trefnwyd gan / Organized by | Holden Farm Dairy |

Fferm Sir Bremenda Isaf County Farm
| Cwrdd / Meet | 11.00 yb / am; Bremenda Isaf, Llanarthne, Sir Gâr / Carmarthenshire, SA32 8JX. Google Maps What3Words |
| Hyd y daith / Length of trip | 2 awr / hours |
| Beth fydd yna? / What to expect | Sgwrs / taith dywys gyda’r Prif Dyfwr Piers Lunt, Rheolwr Prosiect Alex Cook, a Chydlynydd Bwyd Sir Gâr Augusta Lewis. Trwy ‘Brosiect Datblygu Systemau Bwyd Sir Gâr’, mae Bwyd Sir Gâr Food mewn cydweithrediad â’r cyngor, yn datblygu menter ffrwythau a llysiau ar fferm cyngor sir 100 erw. Mae’r ffrwythau a’r llysiau a gynhyrchir yn agroecolegol yn cael eu cyflenwi i’r sector cyhoeddus, lletygarwch lleol a lleoliadau cymunedol. Eleni, sefydlwyd gardd farchnad 2000m2 gyda chnydau gwarchodedig, treialon ar raddfa maes, perllan ac uned brosesu. Mae’r fferm wedi cynnig digwyddiadau gan gynnwys cyd-ddylunio dyfodol y fferm yn gymunedol a phrosiect ymgysylltu â’r celfyddydau treftadaeth. Ar hyn o bryd mae’n cynnal cylch peiriannau ar gyfer tyfwyr Sir Gâr. Yn Gymraeg a Saesneg. Darperir lluniaeth ysgafn. (Uchafswm o 30 o ymwelwyr). Bydd taflen cofrestru / rhannu lifft yn y Gynhadledd. Talk / guided walk with Head Grower Piers Lunt, Project Manager, Alex Cook, and Bwyd Sir Gâr Food Coordinator, Augusta Lewis. Through a ‘Food System Development Project for Carmarthenshire’, Bwyd Sir Gâr Food in collaboration with the council, is developing a fruit and vegetable enterprise on a 100-acre county council farm. The agroecologically produced fruit and vegetables is being supplied into public sector, local hospitality and community settings. This year a 2000m2 market garden with protected cropping, field-scale trials, orchard and processing unit have been established. The farm has offered events including community co-design the future of the farm and a heritage-arts engagement project. It is currently hosting a machinery ring for Carmarthenshire growers. English and Welsh. Light refreshments provided. (Max 30 participants). There will be a sign-up / lift share sheet in the Conference. |
| Trefnwyd gan / Organized by | Bwyd Sir Gâr Food |

Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark Farm Conservation Centre
| Cwrdd / Meet | 1.30 yp / pm; Denmark Farm Conservation Centre car park, Betws Bledrws, Lampeter, SA48 8PB. |
| Hyd y daith / Length of trip | 2 awr / hours |
| Beth fydd yna? / What to expect | Taith o amgylch y dolydd a’r porfeydd yn Fferm Denmark gyda’r Rheolwr Gwarchodfa Natur a’r Porfäwr. Byddwn yn canolbwyntio ar y pori cadwraeth a’r rôl sydd gan y fuches fach o wartheg wrth wella bioamrywiaeth ar y safle. Wedyn, bydd sesiwn holi ac ateb gyda the, coffi a chacen. Saesneg a Chymraeg yn cael eu siarad. Mae ein safle ychydig ar lethr a gall fod yn anwastad / mwdlyd mewn mannau, dewch ag esgidiau cryf a dillad addas. Toiledau ar y safle. Derbyniwyd rhoddion tuag at ein helusen yn ddiolchgar. (Uchafswm o 12 o ymwelwyr) A tour of the meadows and pastures at Denmark Farm with the Nature Reserve Manager and Grazier. We will focus on the conservation grazing and the role that the small herd of cattle have in improving biodiversity on site. There will be a Q&A session afterwards with tea, coffee and cake. English & Welsh spoken. Our site is slightly sloping and can be uneven / muddy in places, please bring strong footwear and waterproofs. Toilets on site. Donations towards our charity gratefully received. (Max 12 participants) |
| Trefnwyd gan / Organized by | Shared Earth Trust |

Daffodil Hill
| Cwrdd / Meet | 2.00 yp / pm; Daffodil Hill, Bangor Teifi, Llandysul, SA44 4JD What3Words: grower.stem.rejoined |
| Hyd y daith / Length of trip | 2 awr / hours |
| Beth fydd yna? / What to expect | Safle 14 erw sy’n cael ei sefydlu fel gardd farchnad bio-ddwys a sy’n ymgorffori amaethgoedwigaeth. Arferion amaethyddiaeth adfywiol, gydag iechyd pridd yn flaenoriaeth ym mhopeth a wnawn. Gardd farchnad, 2 polytunnel, pwll ar gyfer bywyd gwyllt, ardaloedd coetir a helyg biomas ar gyfer prysglwyn cylchdro byr a pherllan fach newydd. Dewch i weld beth sy’n bosibl ar raddfa fach heb ddefnyddio peiriannau mawr, a darganfod sut mae’n bosibl ennill £10,000 yr erw gyda chnydau gwerth uchel wrth wella pridd a chynyddu bioamrywiaeth. Mae un toiled compostio ar gael i ymwelwyr. Parcio cyfyngedig ar y safle. Bydd te a choffi ar gael. Yn rhad ac am ddim, ond derbynnir unrhyw roddion yn ddiolchgar. A 14-acre site being set up as a bio-intensive market garden incorporating agroforestry. Regenerative agriculture practices, with soil health at the forefront of everything we do. Market garden, 2 polytunnels, a wildlife pond, woodland areas and biomass willow for short rotation coppice and a new small orchard. Come and see what is possible on a small scale without the use of large machinery, and discover how it is possible to earn £10,000 per acre with high value crops whilst building soil and increasing biodiversity. A single composting toilet is available to visitors. Limited parking on site. Tea and coffee will be available. No charge, but any donations will be gratefully received. |
| Trefnwyd gan / Organized by | Daffodil Hill |
