Mae bwyd yn ganolog i nod y gynhadledd, felly rydym wrth ein boddau eleni y bydd Bwyty Iâl yn bartner i ni ar gyfer yr arlwyo.

Wedi’i leoli yn Wrecsam ac yn rhan o Goleg Cambria, bydd tîm y bwyty yn gweini te, coffi, cinio a swper yn Llysfasi. Mae nhw’n dweud:

“Un o’n nodau allweddol yw cefnogi strategaeth Cymru ac Ewropeaidd O’r Fferm i’r Fforc drwy ffermio ein cig ein hunain, tyfu ein ffrwythau a’n llysiau ein hunain, a defnyddio ein cynhyrchion llaeth ein hunain gyda chefnogaeth ein cydweithwyr yn Llaneurgain a fferm Llysfasi. Os na allwn ni eu tyfu ein hunain, rydym yn cefnogi bwyd a diod Cymreig lleol, gan hyrwyddo eu cynnyrch trwy fwydlenni pwrpasol.”

Byddant yn rhedeg caffi dros dro wrth ymyl y brif ddarlithfa, yn ogystal â phrydau bwyd yn yr ystafell fwyta. Derbynnir taliadau cerdyn.

Te a choffi: Mae’ch tocyn yn cynnwys un diod wrth gyrraedd. Wedyn, gallwch brynu diodydd a byrbrydau yn y caffi (gyda’ch mwg eich hun i leihau gwastraff papur) neu dewch â fflasg.

Cinio: mae dewis o fwffe poeth yn yr ystafell fwyta, neu focs cinio. Rhaid archebu’r rhain ar-lein. Byddwch hefyd yn gallu prynu cinio yn y caffi pop-up.

Cinio: bydd cinio dau gwrs ar y safle nos Fercher, gydag adloniant byw. Rhaid archebu hwn ar-lein erbyn dydd Gwener 27 Hydref.

Prif: ffolen cig oen Llysfasi crystiog â pherlysiaau, wedi’i weini gyda moussaka corbwmpen a briwsionyn olewydd du

Pwdin: cacen gaws mêl Cymreig wedi’i tharo â mêl a’i gweini â diliau mêl Cymreig wedi’i dorri’n ffres.

Bwydlen fegan a d-glwten:

Prif: Blodfresych pob brodyr Bellis wedi’i weini ar biwrî blodfresych a dresin caper a lemwn.

Pwdin: Pavlova Coedwig Ddu, wedi’i weini â cheirios alcoholig, saws ceirios a ganache siocled tywyll

Prynwch docynnau prydau bwyd

I’r rhai sy’n aros dros nos, bydd Bwyty Iâl hefyd yn darparu brecwast.

Food is central to our event, so we are delighted this year to be partnering with Iâl Restaurant for our catering.

Based in Wrexham and part of Coleg Cambria, the restaurant team will serve teas, coffees, lunch and dinner at Llysfasi. They say:

“One of our key aims is supporting the Welsh and European Farm to Fork strategy by farming our own meat, growing our own fruits and vegetables, and producing our own dairy with the support of our colleagues at Northop and Llysfasi farm. If we can’t grow it ourselves, we support the local Welsh food and drink scene, promoting their products through custom designed menus.” 

They will run a pop-up cafe next to the main lecture theatre, as well as meals in the dining room. Card payments are accepted.

Tea and coffee: Your ticket includes one drink on arrival. Thereafter, you can buy drinks and snacks at the cafe (use your own mug to reduce paper waste) or bring a flask.

Lunch: there is a choice of a hot buffet in the dining room, or a lunch box. These must be booked online. You will also be able to buy lunch at the pop-up cafe.

Dinner: there will be a two-course dinner on site on Wednesday night, with live entertainment. This must be booked online by Friday 27 October.

Main: Llysfasi herb crusted lamb rump served with a courgette moussaka and a black olive crumb

Dessert: Welsh honey basque cheesecake drizzled with honey and served with freshly cut Welsh honeycomb.

Vegan, gluten-free menu:

Main: Bellis brothers baked cauliflower served on cauliflower puree and a caper and lemon dressing

Dessert: Black Forest pavlova, served with boozy cherries, cherry sauce and a dark chocolate ganache

Buy meal tickets

For those staying overnight, Iâl Restaurant will also provide breakfast.