Ers peth amser bellach rydym wedi gweld yr angen am sefydliad corfforedig, yn ddelfrydol elusen (Sefydliad Corfforedig Elusennol) a fydd yn cymryd cyfrifoldeb am Faniffesto Bwyd Cymru a Chynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru.
Byddai sefydliad â statws elusennol yn gallu gwneud cais am arian grant, gan ddileu’r risg ariannol sydd wedi’i hysgwyddo hyd yma gan drefnwyr llawrydd. Er mai’r CGFFfC yw ein prif weithgaredd ar hyn o bryd, byddai ein helusen hefyd yn ymestyn cyrhaeddiad y gynhadledd, gyda digwyddiadau ar-lein, cyhoeddiadau a gweithgareddau eraill i’w penderfynu, gan ein galluogi i gyfrannu drwy gydol y flwyddyn at ddatblygiad bwyd a ffermio yng Nghymru.

Rydym eisoes wedi llunio cyfansoddiad a gwneud cais i’r Comisiwn Elusennau am fudiad o’r enw CyFAN Cymru, lle mae CyFAN yn sefyll am Gymuned dros Fwyd, Amaeth a Natur a ‘Cyfan’ yn mynegi ein gweledigaeth am gymdeithas ac amgylchedd iach. Gwrthodwyd hyn, ond rydym wedi ystyried eu hymateb ac yn awyddus i roi cynnig arall arni, gan ein bod yn credu bod angen clir, cryf am yr hyn a gynigiwn.
Ein Cenhadaeth yw dod â phobl ynghyd i greu llwyfan i ail-ddylunio ac adnewyddu systemau bwyd a ffermio a defnydd tir yng Nghymru ac mae ein dogfen Gweledigaeth, Cenhadaeth a Nodau lawn yma.
Rydym nawr am recriwtio nifer fach o bobl ymroddedig a phrofiadol addas a fydd yn ymuno â ni i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Bydd yn rôl feichus, yn enwedig yn y camau cynnar, ac rydym yn awgrymu y dylai ymgeiswyr allu ymrwymo i:
- Yn ystod y cyfnod sefydlu, hanner diwrnod bob pythefnos ar gyfer cyfarfodydd ac e-byst, ynghyd â dyddiau achlysurol ar gyfer cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb
- Pan fydd y sefydliad wedi’i sefydlu, hyd at bedwar cyfarfod wyneb-yn-wyneb undydd y flwyddyn
- Gweithio i hyrwyddo llwyddiant y sefydliad newydd ar bob cyfle, gan gynnwys presenoldeb yn y Gynhadledd, Sioe Frenhinol Cymru a digwyddiadau eraill, ac ymgysylltu â’r holl rwydweithiau priodol. (Ni fyddai angen i chi helpu gyda threfniadau ymarferol ar gyfer y Gynhadledd oni bai eich bod yn dymuno.)
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl ag un neu fwy o’r canlynol: sgiliau busnes, profiad o ddatblygiad sefydliadol (yn enwedig elusennau), a rhwydweithiau cryf ym mywyd cyhoeddus Cymru.
A allai hwn fod yn chi? Os oes gennych weledigaeth o system bwyd a ffermio mewn cytgord â chymunedau iach a ffyniannus, wedi’i phlethu ag amgylchedd naturiol cyfoethog, ac sy’n adlewyrchu cymeriad unigryw Cymru, cysylltwch â Jane Ricketts Hein a Jane Powell yn y lle cyntaf, am sgwrs anffurfiol: gwybodaeth@cgfffc.cymru.
Ac wrth gwrs, rydym yn croesawu cynigion eraill i gefnogi’r gwaith pwysig hwn.

Mis Mai 2024
Lluniau: Jane Ricketts Hein, Jane Powell, rad stuff photo video.
