
Mae Carreg Creative yn falch iawn o’r cyfle i gynnal y gofod celfyddydol yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio 2025.
Dewch i ymuno â ni mewn gofod croesawgar sy’n dychmygu’r gynhadledd eleni fel Bwrdd Cegin yn llawn o brofiadau amrywiol.
Mae Bwrdd y Gegin yn ofod i ailwefru ac adfyfyrio wrth gydweithio ar weithgareddau dros baned. Mae’n gyfle i chi arafu a myfyrio am y profiadau, y cyfarfyddiadau a’r cwestiynau sydd wedi aros gyda chi wrth fynychu’r gynhadledd eleni. Y nod yw darganfod yr hyn sy’n gyffredin rhyngom, ac adnabod cysylltiadau. Drwy sgwrsio a chreu bydd Bwrdd y Gegin yn sbarduno darn o waith 3D newydd a fydd yn cwmpasu’r holl drafod, a’r holl gysylltiadau.
Rydym yn eich gwahodd i ddod ȃ gwrthrych sy’n cynrychioli cysylltiad i chi, er mwyn ei wehyddu i mewn i’r gwaith celf.
Dewch at Fwrdd y Gegin – bydd rhywun neu rhywbeth yn ymuno ȃ chi! Dewch o hyd i ni yng nghyntedd y Ganolfan Astudiaethau Tir.
Carreg Creative is delighted to be hosting the arts space at the 2025 Wales Real Food and Farming Conference.
We invite you to join us in a friendly and welcoming alternative space, which we are imagining as The Kitchen Table of this year’s conference experience.
The Kitchen Table is a place to recharge and reflect through working together hands-on, while sharing a cuppa or a snack. It’s an invitation to slow down and mull over your conference experiences, encounters and questions. It’s all about finding common threads and drawing out connections. From conversation to creation – a 3D embodiment of our connections and conversations will flow from the kitchen table itself.
You are invited to bring an object that represents connection for you, to weave in to the artwork.
Come to The Kitchen Table – someone or something will join you! Find us in the foyer of the Land-based Centre.
