Bydd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru (CGFFfC) yn dychwelyd am ei seithfed flwyddyn gyda lleoliad a phartneriaeth gyffrous newydd. Bydd y gynhadledd eleni yn cael ei chynnal ar Gampws Pencoed, Coleg Penybont yn Ne Cymru, rhwng 18–20 Tachwedd 2025.

Am y tro cyntaf, bydd CGFFfC yn ymuno â Synnwyr Bwyd Cymru i gynnal digwyddiad cydweithredol sy’n cyfuno dau gynhadledd blynyddol nodedig: Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru a Cynhadledd Bwyd mewn Cymunedau gan Synnwyr Bwyd Cymru. Mae’r thema eleni yn adlewyrchu’r bartneriaeth yma: Cymunedau, Bwyd a Ffermio: Gweithio Gyda’n Gilydd.
Mae modd cyflwyno syniadau am sesiynau sy’n archwilio’r thema hon gan unigolion a sefydliadau, ac mae dal modd i gyflwyno syniadau erbyn 20 Gorffennaf 2025.
Sefydlwyd CGFFfC yn 2019 fel llwyfan annibynnol i archwilio bwyd a ffermio cynaliadwy yng Nghymru. Mae’n dod ag amaethwyr, busnesau bwyd, amgylcheddwyr, gweithwyr iechyd cyhoeddus, addysgwyr ac ymgyrchwyr cyfiawnder cymdeithasol ynghyd i rannu gwybodaeth, syniadau, ysbrydoli, a siapio system fwyd i’r dyfodol sy’n wydn ac yn deg.
Bydd y gynhadledd eleni yn cynnwys dau ddiwrnod craidd o sesiynau ar ddydd Mawrth 18fed a dydd Mercher 19eg Tachwedd, ac yna ymweliad â fferm ar ddydd Iau 20fed Tachwedd, wedi’i drefnu ar y cyd gyda Cyswllt Ffermio.
Caiff y gynhadledd ei threfnu gan dîm traws-sector o weithwyr proffesiynol sy’n ymrwymedig i adeiladu dyfodol bwyd gwell i Gymru. Bydd manylion noddi a stondinau yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Dywedodd Dr Amber Wheeler, Cadeirydd pwyllgor trefnu’r gynhadledd;
“Rydym wrth ein bodd i ddod â’r gynhadledd i Dde Cymru am y tro cyntaf. Mae Campws Pencoed, Coleg Penybont yn cynnig cyfleusterau rhagorol, ac rydym yn arbennig o gyffrous i ymgysylltu â myfyrwyr a staff. Mae eu ffocws gweithgar ar gynaliadwyedd a’u rhaglenni amaethyddol a garddwriaethol cryf yn ei wneud yn leoliad delfrydol ar gyfer digwyddiad eleni. Rydym eisoes wedi derbyn rhai cynigion gwych, ond mae amser o hyd i gyflwyno syniadau sesiwn cyn 20 Gorffennaf. Mae partneriaeth eleni gyda Synnwyr Bwyd Cymru ac integreiddio’r Gynhadledd Bwyd mewn Cymunedau yn dod ag egni a chyrhaeddiad newydd i’r digwyddiad—rydym yn edrych ymlaen at y sgyrsiau a’r cydweithio fydd yn deillio ohono.”
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn ystyried y digwyddiad fel cyfle i ddod å rhwydwaith o Bartneriaethau Bwyd Cymru at ei gilydd ac i ymgysylltu gyda’r gymuned amaethyddol ehangach.
Meddai Pearl Costello, Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Synnwyr Bwyd Cymru:
“Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gyffrous i fod mewn partneriaeth gyda’r Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru eleni. Mae’r digwyddiad ar y cyd yma yn cynnig cyfle amserol i ddod â phartneriaethau bwyd, cymunedau a lleisiau ffermwyr ar draws Cymru at ei gilydd yn dilyn lansiad diweddar Llywodraeth Cymru o’r Strategaeth Fwyd Gymunedol. Bydd y gynhadledd yn cynnig gofod ar gyfer cydweithio, rhannu gwybodaeth a rhannu safbwyntiau ar draws y sectorau bwyd a ffermio, gyda’r bwriad i gryfhau systemau bwyd lleol ac adeiladu dyfodol bwyd tecach, iachach a mwy gwydn i bawb.”
